Mae Ysgol Gymraeg Cwmtwrch wedi ei lleoli ym mhentref Cwmtwrch Isaf yng Nghwm Tawe. Mae'r ysgol yn gwasanaethu Cwmtwrch Isaf ac Uchaf a'r pentrefi cyfagos. Lleolir yr ysgol o fewn tir pleserus, yn cynnwys cae, iard chwarae a llyn, o fewn ardal bywyd gwyllt.
Agorwyd yr ysgol bresennol yn 1976. Mae'r adeilad yn cynnwys mynedfa, neuadd, swyddfa, ardal adnoddau, ystafell athrawon a thair ardal dysgu. Mae adran y Babanod yn darparu cyfleusterau ar gyfer y Meithrin, Derbyn, Bl.1 a Bl.2. Mae CA2 yn cael eu dysgu mewn un dosbarth. Mae Ysgol Feithrin Cwmtwrch yn cwrdd yn ddyddiol yn y caban symudol sydd yn rhan o'r ysgol.
Addysgir y disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg ond rhoddir cryn dipyn o bwyslais ar y polisi o sicrhau bo'r plant yn rhugl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol yn 11 oed. |